SL(6)481 – Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2024
Cefndir a diben
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018 a Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019.
Mae rheoliad 2(2) yn diwygio'r ffioedd am wiriadau dogfennol sy’n ymwneud â phlanhigion penodol, cynhyrchion planhigion penodol neu wrthrychau eraill penodol sy’n tarddu o un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir. Mae hefyd yn darparu nad yw ffi yn daladwy am wiriadau ffisegol na gwiriadau adnabod sy’n ymwneud â nwyddau penodol o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein a’r Swistir ac yn darparu eithriadau i’r rheol honno.
Mae rheoliad 2(3) yn mewnosod tabl o blanhigion penodol, cynhyrchion planhigion penodol a gwrthrychau eraill penodol y mae’r ffioedd a ddiwygir gan reoliad 2(2) yn ymwneud â hwy. Mae'r tabl yn diweddaru ac yn cywiro’r ffioedd arolygu mewnforio ar gyfer Solanum lycopersicum o Morocco a'r Ynysoedd Dedwydd.
Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019. Mae paragraff (2) yn cywiro’r math o arolygiad y gellir codi ffi amdano o dan y Rheoliadau hynny.
Y weithdrefn
Cadarnhaol Drafft.
Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn –
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Cafodd y rheoliadau hyn eu hystyried yn flaenorol gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 18 Mawrth 2024. Nododd adroddiad y Pwyllgor dri gwall technegol y cytunodd Llywodraeth Cymru i'w cywiro. Ar 3 Ebrill 2024, cafodd y rheoliadau eu tynnu yn ôl yn ffurfiol o dan Reol Sefydlog 27.1 a’u hailosod ar 16 Ebrill 2024. Mae’r gwallau a nodwyd wedi cael eu cywiro. Ar 15 Mawrth 2024, anfonodd y Pwyllgor lythyr at Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol, yn dweud, pan fyddai is-ddeddfwriaeth yn cael ei defnyddio i ddiwygio gwallau mewn offerynnau blaenorol, y byddai’n ddefnyddiol pe bai sylw yn cael ei dynnu at hynny yn y memorandwm esboniadol cysylltiedig. Mae'r Pwyllgor yn cydnabod ac yn croesawu’r ffaith y tynnwyd sylw clir at y cywiriadau hyn i'r Pwyllgor yn adran 2 o'r memorandwm esboniadol.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
24 Ebrill 2024